P-04-403  Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddyd i Lywodraeth Cymru i brynu  Plas Cwrt yn Dre, a elwir hefyd yn Hen Senedd-dy Owain Glyndŵr,  Dolgellau, cyn bor trysor cenedlaethol hwn yn cael ei werthu ar y farchnad agored ai golli am byth.

Gwybodaeth ategol:  

Symudwyd Plas Cwrt yn Dre, a elwir hefyd yn Hen Senedd-dy Owain Glyndŵr, o Ddolgellau i Barc Dolerw, y Drenewydd ym 1886. Bellach ni all y Crynwyr, perchnogion yr adeilad ar hyn o bryd, fforddio iw gynnal ai gadw ac mae ar werth ganddynt am £55,000. Mae hwn, heb os, yn drysor cenedlaethol a chredwn y dylai Llywodraeth Cymru ei brynu ar gyfer y genedl .

 

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Sian Ifan

 

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:  2 Gorffennaf 2012

Nifer y llofnodion:  218 (Casglwyd 10 llofnod ychwanegol ar ddeiseb gysylltiol)